| ••Gair byr am ein bythynnod |

Lolfa Bwthyn 1

Cegin Bwthyn 1

Stafell Wely Teulu Bwthyn 1
|
Bwthyn 1 Dyma'r mwyaf o'r tri bwthyn. Mae yma un stafell wely ddwbl ac un stafell gyda gwely dwbl a gwlâu bync maint llawn. Mae'r lolfa ar gynllun agored yn cynnig llety cyfforddus iawn gyda theledu, peiriant fideo, radio/CD, lle bwyta a chegin gyda stof halogen, pobty â ffan, meicrodon, peiriant golchi llestri ac rhewgell/oergell. Mae gan yr ystafell 'molchi gawod, basin a thoiled.
Bwthyn 2 I'r dim ar gyfer cyplau! Dyma nyth bach clyd gydag un stafell wely ddwbl, lolfa agored gyda chadeiriau esmwyth, bwrdd a chadeiriau, teledu, peiriant fideo, radio/CD a chegin gyda phopty trydan, meicrodon ac oergell. Mae'r lle 'molchi ar wahân yn cynnwys cawod, basin a thoiled.
|
|
|
| Bwthyn 3 Mae ein bwthyn canolg ei faint yn addas i deulu o 3 neu 4, gydag un ystafell wely ddwbl ac un ystafell gyda gwlâu bync maint llawn. Mae gan y lolfa agored dridarn eistedd, bwrdd bwyd a chadeiriau, teledu a radio/CD. Mae'r gegin gynhwysfawr yn cynnwys popty trydan, meicrodon a rhwegell/oergell. Mae gan yr ystafell 'molchi gawod drydan, basin a thoiled. Mae'r bwthyn hwn yn addas ar gyfer rhywun sy'n cael trafferth mynd o le i le gan fod iddo le gwastad i fynd i fewn drwy'r drws cefn ac mae'r ystafelloedd i gyd ar yr lefel hwnnw. |
|
|
|
| |
CROESO I WEFAN
TYDDYN SIANEL
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â:
Mrs A P Williams
E-bost: tyddynsianel@supanet.com
Ffôn
:
01766 522738
|
|
••• |