




|
Cyfleusterau'r bythynnod
Ym mhob un o fythynnod Tyddyn Sianel mae offer cynhwysfawr gyda gwres trydan a dillad gwlâu yn gynhwysiedig yn y pris rhent.
Mae ystafell gyffredin gyda pheiriannau golchi dillad, ffôn talu, llyfrau a thaflenni am yr ardal, llyfrgell fechan, gemau a fideos ac offer glanhau.
Mae'r gerddi eang yn edrych dros Afon Dwyfor, Bae Ceredigion a golygfeydd bendigedig o Ynysoedd Tudwal i Sir Benfro. Mae nhw, a Mynyddoedd Y Rhinogau ym Meirionnydd yn edrych yn wych drwy gydol y flwyddyn.
Mae llefydd i blant redeg a chwarae, mae yma lawntiau braf, llefydd eistedd a byrddau picnic i chi ymlacio wrthynt.
Mae'r maes parcio eang yn ddigon i geir a chychod a gallwn gynnig cadw beiciau dan glo hefyd. |
 |
|
|
| |
CROESO I WEFAN
TYDDYN SIANEL
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â:
Mrs A P Williams
E-bost: tyddynsianel@supanet.com
Ffôn
:
01766 522738
|
|
| |
CROESO CYNNES i chi rannu harddwch a hyfrydwch PENRHYN LLYN ac ERYRI – arhoswch am ychydig ar gyrrion Perl Arfordir Gogledd Cymru - CRICCIETH!
Mae ein tri bwthyn wedi eu lleoli'n hwylus hanner ffordd rhwng PORTHMADOG a PHWLLHELI ym mhentref hynod LLANYSTUMDWY, enwog am ei gysylltiadau â LLOYD GEORGE. Mae'n ardal o harddwch godidog gyda golygfeydd gwych ar bob llaw. Mae pob un o'r prif atyniadau'r ardal yn hawdd i'w cyrraedd ac o fewn 15 milltir.
Mae'r bythynnod un a dwy lofft wedi ei haddasu o hen adeiladau fferm cerrig ac yn cynnig llety hunan-gynhaliol glân a chlyd i bartïon o 2 i 12 o bobl a babi. Maent ar gael o fis Mawrth i fis Hydref.
Harddwch naturiol
Lleolir Tyddyn Sianel yn Eifionydd, Gwynedd - ardal o harddwch naturiol arbennig lle mae golgfeydd o fôr a mynydd o'ch amgylch ym mhobman.
O fewn 12 milltir mae mynyddoedd ysblennydd Eryri. |
 |
|
••• |